Pwyllgor Senedd y Dyfodol
Crynodeb o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025
1. Bu aelodau'r Pwyllgor yn ystyried papur ar drefn busnes y Cyfarfod Llawn ac yn rhannu amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i’r themâu a ganlyn:
§ Dadleuon a chwestiynau yn y Cyfarfod Llawn;
§ cwestiynau i Weinidogion Cymru;
§ deddfwriaeth y Llywodraeth;
§ diwrnodau’r Cyfarfod Llawn;
§ amserlennu.
2. Parhaodd aelodau'r Pwyllgor â'u trafodaethau ar drothwyon Rheolau Sefydlog, a chytunwyd i roi ystyriaeth derfynol i'r materion hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol, unwaith y bydd allbwn wedi'i ddrafftio a phan fydd ymatebion i'r holl ohebiaeth wedi dod i law.